R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
1. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gynnydd sy'n cael ei wneud o ran cyflenwi darpariaeth ôl-16 o ansawdd uchel i bobl ifanc yn Nhorfaen? OAQ(4)0388(ESK)
2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo plant ag anghenion addysgol arbennig? OAQ(4)0383(ESK)
3. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gontract cenedlaethol addysg bellach? OAQ(4)0398(ESK)
4. Sandy Mewies (Delyn): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo gwaith ieuenctid yng Nghymru? OAQ(4)0391(ESK)
5. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddarpariaeth addysg arbennig yn ne Cymru? OAQ(4)0395(ESK)W
6. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd ar draws Cymru o ran datblygu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg? OAQ(4)0392(ESK)W
7. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu addysg am ddim i blant tair oed? OAQ(4)0396(ESK)
8. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gofynion a roddir ar awdurdodau lleol o ran ymgynghori â'r cyhoedd pan gynigir newidiadau i ddalgylchoedd ysgolion? OAQ(4)0389(ESK)
9. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu hyfforddiant entrepreneuraidd mewn ysgolion? OAQ(4)0393(ESK)W
10. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau i blant ag anghenion dysgu ychwanegol ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)0386(ESK)
11. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd dinasyddiaeth i addysg plant? OAQ(4)0385(ESK)
12. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am safonau addysg uwchradd yn Nyffryn Clwyd? OAQ(4)0390(ESK)
13. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am safonau addysg uwchradd yng Nghymru? OAQ(4)0397(ESK)
14. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd cysondeb mewn cyllid addysg ar draws Cymru? OAQ(4)0394(ESK)W
15. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda Chyngor Sir Powys ynglŷn â darpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol? OAQ(4)0387(ESK)W
Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
1. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu cwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol yng Nghymru? OAQ(4)0372(EST)
2. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen a sefydlwyd i ystyried y berthynas rhwng y Gymraeg a datblygu economaidd? OAQ(4)0389(EST)W
3. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith i uwchraddio gorsaf reilffordd Pontypridd? OAQ(4)0379(EST)
4. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr achosion diweddar o gau pont Llansawel yr M4 yn sgîl digwyddiadau'n ymwneud â gwyntoedd cryfion? OAQ(4)0375(EST)
5. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth integredig? OAQ(4)0390(EST)
6. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiogelwch ffyrdd ar yr A40 drwy Frycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)0373(EST)
7. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnal a chadw cefnffyrdd yng Nghymru? OAQ(4)0382(EST)
8. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau bysiau yng Nghymru? OAQ(4)0387(EST)
9. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau? OAQ(4)0377(EST)W
10. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y bont dros afon Dyfi? OAQ(4)0385(EST)
11. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei chynigion ar gyfer adfywio economaidd yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0384(EST)
12. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa feini prawf a ddefnyddir i farnu llwyddiant cynlluniau datblygu masnachol, fel datblygiad SA1 yn Abertawe? OAQ(4)0388(EST)
13. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am gam cyntaf prosiect Metro De Cymru? OAQ(4)0383(EST)
14. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yr Ardaloedd Menter yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)0381(EST)
15. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd menter Ardaloedd Twf Lleol Powys? OAQ(4)0374(EST)